
Helo!
Erin 'dw i - hyfforddwraig ddwyieithog gyda bron i 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant llês a ffitrwydd. Dwi'n helpu menywod i gryfhau, magu hyder a ffeindio cysondeb gyda ymarfer corff.
Dim trics, dim addewidion afrealistig, dim 'all or nothing' jyst cefnogaeth, strwythur a rwtin syml fyddi di'n gallu sticio ato hir dymor - hyd yn oed pan ma bywyd yn brysur!
Erin ti mor hawdd i siarad efo ac wedi neud y broses yn syml, slic a di-drafferth. Mae’r fideos fel gwersi bach sy’n tanio rhywbeth tu mewn i ni ac yn gneud i ni eisiau bod yn our best selves! Arddull cynnes ac agos-atat, a very ‘real’. Ddim yn teimlo fel bod mewn cwmni rhywun hollol ‘perffaith’ sy’n unattainable, yn hytrach mae’r gwersi a’r chats a’r coaching calls yn teimlo’n uplifting ag yn supportive dros ben.
Mae hwn yn wahanol…mae Erin isio i ti lwyddo
Diolch yn fawr Erin - wir wedi cael budd o’r gefnogaeth. Trefnu cyn dechre’r wythnos wedi bod yn help mawr i fi, a cario mlaen y diwrnod wedyn yn lle mynd yn rhwystredig a teimlo bo fi di methu os dwi’n cal ‘off day’!
Mae’r kickstart wedi neud yn union hynny! Dechrau pethau off sy’n para - hyd yn hyn ta beth! Mae’r app a’r habits dyddiol wedi bod yn rili ddefnyddiol i fi, targed 10k y dydd hefyd yn lwyddiant. Pan fyddi di’n gwneud y cwrs wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd nesaf plîs rho wybod, bydda’i 100% eisiau ymuno yn hwnnw! Diolch am y cynnig, yr anogaeth a’r gefnogaeth! Gobeithio gweld ti mewn dosbarth cyn hir! 🙌 Xxx
Dwi wir yn falch mod i gwneud y kickstart. Fel heddiw, wedi cael ‘off day’ rili heddiw o ran bwyd, ond dwi ddim am roi fyny oherwydd dwi heb ddad-neud bob dim fel oedd un o’r clipiau fidios nes di yrru yn ddangos. Felly dyna dwin deimlo syn help, bod yna atebolrwydd a chefnogaeth pan fo angen xx
Mae wedi bod yn addysgol bi-ond! Dyw e ddim wedi bod yn 'preachy' o gwbl. Dwi wir wedi mwynhau!! Diolch gymaint. Ymlaen â'r cwrs 8-wythnos nawr!! x
